Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission
NAFWC
2011
Cofnodion cyfarfod 14 Gorffennaf 2011
Dyddiad:
14 Gorffennaf
2011
Amser: 12.00
Lleoliad: Ystafell Gynadledda
4B
Yn
bresennol:
Y Llywydd, Cadeirydd
Peter Black AC
Angela Burns AC
Sandy Mewies AC
Rhodri Glyn Thomas AC
Swyddogion yn
bresennol:
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc
Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu
Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad
Craig Stephenson, Pennaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r
Aelodau
Helen Finlayson, Ysgrifenyddiaeth
Steven O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad
– eitemau 2 a 3
Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu – eitem 4
Cynghorydd
Annibynnol:
Mair Barnes
Eraill:
David Melding AC, y Dirprwy Lywydd
1. Cyflwyniad y
Cadeirydd
Diolchodd
y Llywydd i staff y Cynulliad, ac yn arbennig i Claire Clancy,
Keith Bush ac Adrian Crompton, am y cymorth a’r cyngor a
roddwyd o ran ethol dau unigolyn i’r Cynulliad ar ôl
cael eu gwahardd. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar am gymorth y
swyddogion wrth alluogi sefyllfa gymhleth ac unigryw i gael ei
datrys mor gyflym â phosibl, drwy broses deg a chadarn yn
gyfreithiol.
Nododd y Llywydd fod y trefniadau newydd ar gyfer ateb Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Comisiwn wedi bod yn ddidrafferth ar 6 Gorffennaf, a bod yr atborth gan yr Aelodau wedi bod yn gadarnhaol.
Cytunodd y Pwyllgor y byddai taflenni briffio i’r Aelodau yn cael eu dosbarthu ar ôl cyfarfodydd yn y dyfodol.
Ymddiheuriadau
Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datgan
buddiannau
Ni
chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan.
Cofnodion y cyfarfod ar 29
Mehefin 2011
Cytunwyd
yn ffurfiol ar y cofnodion.
Materion yn codi o’r
cyfarfod ar 29 Mehefin 2011
Nid
oedd dim materion yn codi.
2. Strategaeth ddrafft
ddiwygiedig y Comisiwn 2011-16
Roedd y
strategaeth ddrafft ar gyfer 2011-16 wedi cael ei diweddaru i
adlewyrchu sylwadau gan y Comisiynwyr am eu blaenoriaethau
a’u dyheadau ar gyfer y sefydliad.
Cytunwyd ar y datganiad draft diwygiedig o ddibenion ac amcanion strategol, yn amodol ar rai mân ddiwygiadau y gwnaeth y Comisiynwyr gais amdanynt er mwyn symleiddio geiriad y strategaeth.
3. Strategaeth cyllideb
ddrafft y Comisiwn
Trafododd y Comisiynydd y gwasanaethau y bydd eu hangen ar y
Cynulliad fel deddfwrfa sydd â phwerau deddfu llawn yn dilyn
y refferendwm. Cytunwyd bod angen i’r Cynulliad, fel
sefydliad sy’n tyfu, gael safon uchel o wasanaethau cymorth a
gaiff eu cefnogi gan adnoddau priodol er mwyn galluogi’r
Aelodau i ymgymryd â’u swyddogaethau. Cafwyd atborth ar
effaith y gostyngiadau yn y Gwasanaeth Ymchwil ar yr
Aelodau.
Trafodwyd blaenoriaethau’r Comisiynwyr ar gyfer cyflenwi gwasanaethau craidd, gan gynnwys cymorth arbenigol penodol ar gyfer pwyllgorau’r Cynulliad, Gwasanaeth Ymchwil cryf, gwasanaethau cyfreithiol ac adnodd TGCh arbenigol ar gyfer datblygu’r strategaeth TGCh. Cafwyd cyflwyniad i’r ffordd gyffredinol o ystyried strategaeth y gyllideb ar gyfer 2011-16, ac ar y lefel ddewisol o gydbwysedd rhwng gwelliannau / twf a chostau. Barn y Comisiynwyr oedd ei bod yn bwysig cyflwyno cyfanswm hyd a lled Gwasanaethau’r Cynulliad a Chyllideb yr Aelodau gyda’i gilydd.
Byddai cynigion cyllideb manwl, yn tynnu sylw at lle gellir gwneud arbedion, a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer pob gwasanaeth, a strategaethau cyfathrebu drafft yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf.
Camau gweithredu: Swyddogion i wneud gwaith manwl dros yr haf, gan weithio gyda deiliaid portffolios, i’w hystyried gan y Comisiwn ym mis Medi.
4. Gwasanaethau
dwyieithog
Cafodd y Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn ei drafod, gan
ystyried adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sylwadau a gyflwynwyd
gan Aelodau a rhanddeiliaid, yr egwyddor o allu cael gafael ar
drafodion y Cynulliad yn Gymraeg neu yn Saesneg a’r angen i
sicrhau gwerth am arian. Cytunodd y Comisiwn y dylid parhau
â’r ymchwiliadau i ddarparu cofnodion dwyieithog, a
gwnaeth gais am fwy o wybodaeth fanwl ynghylch cyfanswm y costau
tebygol, gan gynnwys strwythur talu Google Translate o fis Rhagfyr
2011 ymlaen. Dywedwyd bod angen i unrhyw drefniant fod yn
gynaliadwy, ond y byddai, mewn egwyddor, am ddarparu Cofnod
o’r Trafodion yn hollol ddwyieithog pe bai’n bosibl
canfod ateb hirdymor. Yn y cyfamser, byddai’r trefniadau
presennol yn parhau. Byddai’r Llywydd yn ysgrifennu at Fwrdd
yr Iaith Gymraeg i gadarnhau hyn.
Yn amodol ar ddiwygiadau i adlewyrchu’r penderfyniadau hyn, cytunwyd ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft ac amserlen yr ymgynghoriad. Gwnaeth y Comisiynwyr gais y byddai’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru, gan gynnwys awdurdodau lleol.
Camau gweithredu: Swyddogion i ddarparu manylion pellach am gostau defnyddio Google Translate o fis Rhagfyr 2011 ymlaen.
Y Llywydd i ymateb i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar ran Comisiwn y Cynulliad.
5. System rheoli
achos
Darparwyd
gwybodaeth am y nifer o Aelodau sy’n defnyddio’r
system; costau’r system hyd yn hyn; goblygiadau o ran
adnoddau, costau a diogelu data wrth i staff y Comisiwn wneud cais
am ddata oddi ar y gofrestr etholiadol, a chael gafael ar y
wybodaeth honno; a’r peryglon y gallai’r data gael ei
ddefnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth bleidiol.
Mynegwyd pryderon am gostau’r prosiect hyd yn hyn, a chafwyd cais i wneud gwaith mwy manwl ar brosiectau tebyg yn y dyfodol i ganfod anghenion defnyddwyr, amcangyfrif y nifer a sicrhau bod amcangyfrifon costau yn gadarn.
Cytunodd y Comisiwn i wneud cais i’r Comisiwn ddod yn gorff a enwir o fewn Rholiadau Cynrychioli’r Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.
Camau gweithredu: Keith Bush i wneud cais i newid Rheoliadau Cynrychioli’r Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 i gynnwys Comisiwn y Cynulliad fel corff a enwir.
6. Penderfyniad ac
adroddiad y Bwrdd Taliadau
Gwnaeth y Bwrdd Taliadau ei Benderfyniad cyntaf ym mis Mawrth 2011,
ond ni allai, ar y pryd, wneud penderfyniadau terfynol o ran y
cyflogau ychwanegol i rai deiliaid swyddi yn y Cynulliad. Roedd y
Penderfyniad wedi cael ei ddiweddaru bellach i adlewyrchu
penderfyniadau am gyflogau ychwanegol sy’n daladwy i
Gomisiynwyr, arweinwyr pleidiau, cadeiryddion pwyllgorau a rheolwyr
busnes, a chafodd ei dderbyn yn ffurfiol yng nghyfarfod y Comisiwn.
Mynegodd y Comisiynwyr y farn nad oedd y trefniadau cyflogau
ychwanegol ar gyfer rheolwyr busnes y pleidiau yn adlewyrchiad
digonol o’r gwahaniaethau yn nifer y seddi sydd gan bob
plaid.
Roedd materion wedi cael eu codi gyda’r Llywydd a Chomisiynwyr eraill ynghylch y terfyn misol ar rentu llety a’r meini prawf ar gyfer pellter o ran cymhwysedd i hawlio cymorth llety yn seiliedig ar yr etholaeth neu’r rhanbarth a gaiff ei chynrychioli gan yr Aelod. Cytunodd y Comisiwn y byddai’r Llywydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau.
Camau gweithredu: Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu gosod y Penderfyniad a’r adroddiad, a chyfathrebu dogfennau i Aelodau’r Cynulliad a’u staff.
Y Llywydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau yn nodi pryderon yr Aelodau am y cyfyngiadau ar gymhwysedd i hawlio cymorth mewn cysylltiad â llety.
7. Adroddiad blynyddol
Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad
Nodwyd yr adroddiad blynyddol.
8. Amserlen
contractau
Nodwyd amserlen y contractau. Gofynnodd y Comisiynwyr am
ddiweddaru’r amserlen i adlewyrchu dyfarnu’r contract
arlwyo.
9. Rhaglen dreigl Comisiwn
y Cynulliad
Nodwyd
y rhaglen dreigl.